If you’re a fan of crime
fiction and always on the lookout for new talent, check out the 2017 shortlist
for the John Creasy (New Blood) Dagger Award. This award is for the best crime
novel by a first-time author of any nationality, published in the UK and
written in English. There are some great new crime writers here to road test.
All the titles are available to borrow or reserve from Torfaen Libraries.
In 1930’s Hollywood, no one
is innocent. World-weary Jonathan Craine is a detective at the LAPD who
has spent his entire career as a studio ‘fixer’, covering up crimes of the
studio players to protect the billion-dollar industry that built Los Angeles.
When one of the producers of The Wizard of Oz is found dead under suspicious
circumstances, Craine must make sure the incident passes without scandal.
A body is discovered with
the dismembered parts of six victims stitched together, nicknamed by the press
as the 'Ragdoll'. Assigned to the shocking case are Detective William 'Wolf'
Fawkes, recently reinstated to the London Met, and his former partner Detective
Emily Baxter. The 'Ragdoll Killer' taunts the police by releasing a list of
names to the media, and the dates on which he intends to murder them. With six
people to save, can Fawkes and Baxter catch a killer when the world is watching
their every move?
Joseph Knox – Sirens
The runaway daughter of a dirty
politician. The unsolved disappearance of a young mother. The crime lord who
knows the city's secrets. The disgraced detective on the edge of it all. Many
questions. Not many answers. Not yet.
Annie's mother is a serial
killer. The only way she can make it stop is to hand her mother in to the
police. But out of sight is not out of mind. As her mother's trial looms, the
secrets of her past won't let Annie sleep, even with a new foster family and a
new name, Milly. Now, surely, she can be whoever she wants to be. But Milly's
mother is a serial killer. And blood is thicker than water. Good me, bad me.
She is, after all, her mother's daughter.
When three-year-old Harry
Monroe goes missing, Tall Oaks is the sort of community you'd expect to rally
round and find him before the day is out. Someone must know something. But
months later his desperate mother Jess is an increasingly isolated figure,
still printing off posters of her son and putting them on display around the
town with the police investigation apparently at a standstill. It's becoming
quite clear that however well they all think they know each other, there are secrets
that no one wants revealed.
Reserve here
Gwobr Dagger Cymdeithas Awduron Trosedd
Gwobr Dagger Cymdeithas Awduron Trosedd
Os ydych chi'n frwd dros ffuglen droseddau a bob amser yn
chwilio am dalent newydd, edrychwch ar restr fer 2017 ar gyfer Gwobr Dagger
John Creasy (New Blood). Mae'r wobr hon ar gyfer y nofel troseddau gorau gan
awdur cyntaf unrhyw genedligrwydd, a gyhoeddir yn y DU ac a ysgrifennwyd yn
Saesneg. Mae yna rai awduron troseddau newydd, gwych yma i gael blas arnynt.
Mae'r holl deitlau ar gael i'w benthyca neu eu cadw i'r neilltu yn Llyfrgelloedd
Torfaen.
Yn Hollywood y 1930au, nid oes unrhyw un yn
ddiniwed. Mae Jonathan Craine, sydd wedi hen alaru ar y byd, yn dditectif yn yr
LAPD ac wedi treulio ei yrfa gyfan fel 'sefydlyn' stiwdio, yn gwneud
ffug-esgusodion dros y chwaraewyr stiwdio i amddiffyn y diwydiant biliwn doler
a adeiladodd Los Angeles. Pan ddarganfyddir un o gynhyrchwyr The Wizard of Oz
yn farw o dan amgylchiadau amheus, rhaid i Craine sicrhau bod y digwyddiad yn
mynd heibio heb sgandal.
Darganfyddir corff gyda rhannau corff chwe
dioddefwr wedi eu datgymalu a'u gwnïo gyda'i gilydd, neu 'Ragdoll' yn ôl yr enw
a rhoddwyd iddo gan y Wasg. Y Ditectif William 'Wolf' Fawkes, a gafodd ei
ailbenodi i'r Met yn Llundain, a'i gynbartner Ditectif Emily Baxter, sy'n cael
eu haseinio i'r achos. Mae Llofrudd 'Ragdoll' yn edliw'r heddlu trwy ryddhau
rhestr o enwau i'r cyfryngau, a'r dyddiadau y mae'n bwriadu eu llofruddio. Gyda
chwech o bobl i'w hachub, a all Fawkes a Baxter ddal llofrudd pan fydd y byd yn
gwylio eu symudiadau?
Joseph Knox – Sirens
Merch ffoëdig gwleidydd brwnt. Diflaniad
mam ifanc heb ei ddatrys. Meistr ar drosedd sy'n gwybod cyfrinachau'r ddinas. Y
ditectif cywilyddus sy'n sleifio. Llawer o gwestiynau. Dim llawer o atebion.
Ddim eto.
Mae mam Annie yn hen law ar lofruddio. Yr
unig ffordd y gall ei hatal yw dweud wrth yr heddlu. Ond nid yw pell o'r golwg
yn golygu pell o'r meddwl. Wrth i dreial ei mam agosáu, nid yw cyfrinachau ei
gorffennol yn gadael i Annie gysgu, hyd yn oed gyda theulu maeth newydd ac enw
newydd, Milly. Nawr, yn sicr, gall hi fod pwy bynnag y mae hi eisiau bod. Ond
mae mam Milly yn hen law ar lofruddio. A thewach gwaed na dŵr. Da neu ddrwg.
Mae hi, wedi'r cyfan, yn ferch i'w mam.
Pan fydd Harry Monroe, sy'n dair oed, yn mynd ar goll,
byddech yn disgwyl i gymuned fel Tall Oaks fod yn gefn a cheisio dod o hyd iddo
cyn diwedd dydd. Rhaid bod rhywun yn gwybod rhywbeth. Ond fisoedd yn
ddiweddarach, mae Jess, ei fam druan, yn ffigwr fwyfwy anghysbell, sydd wrthi’n
argraffu posteri o'i mab a'u harddangos o gwmpas y dref tra bod ymchwiliad yr
heddlu yn sefyll yn ei unfan. Mae'n dod yn eithaf clir, fodd bynnag, waeth pa
mor dda y maen nhw'n meddwl eu bod yn adnabod ei gilydd, mae 'na gyfrinachau
nad oes neb eisiau eu datgelu.
No comments:
Post a Comment
We would love to hear from you.
Please leave comments below.