Friday 11 August 2017

Some more criminally good reads for you…


In June we featured our Crime Fiction Reading group at Blaenavon Library and mentioned some books well worth reading if you were a fan of the genre.

With the Mcllvanney Prize (formally known as the Scottish Crime Book of the Year) winner being revealed at the start of next month here are a few more suggestions for you, all written by Scottish authors in with a chance of landing the prize on 8th September.

Cold Earth by Ann Cleeves - At the burial of his old friend Magnus Tait, Jimmy Perez watches the flood of mud and peaty water smash through a croft house in its path. Everyone thinks the croft is uninhabited, but in the wreckage he finds the body of a dark-haired woman wearing a red silk dress. In his mind, she shares his Mediterranean ancestry and soon he becomes obsessed with tracing her identity.


The Long Drop by Denise Mina - William Watt wants answers about his family's murder. Peter Manuel has them. But Peter Manuel is a liar.  William Watt is an ordinary businessman, a fool, a social climber.  Peter Manuel is a famous liar and a criminal. He claims he can get hold of the gun used to murder Watt's family.

One December night in 1957, Watt meets Manuel in a Glasgow bar to find out what he knows.


Perfect Remains by Helen Fields -  On a remote Highland mountain, the body of Elaine Buxton is burning. All that will be left to identify the respected lawyer are her teeth and a fragment of clothing.   In the concealed back room of a house in Edinburgh, the real Elaine Buxton screams into the darkness. Detective Inspector Luc Callanach finds himself in a race against the clock. Or so he believes … The real fate of the women will prove more twisted than he could have ever imagined. 


Games People Play by Owen Mullen - Thirteen-month-old Lily Hamilton is abducted while her parents are just yards away. Three days later the distraught father turns up at private investigator Charlie Cameron's office. Mark Hamilton believes he knows who has stolen his daughter. And why. Against his better judgment Charlie gets involved in the case and when more bodies are discovered the awful truth dawns: there is a serial killer whose work has gone undetected for decades. Is baby Lily the latest victim of a madman? 



Ym mis Mehefin, fe wnaethom gynnwys ein grŵp darllen Ffuglen Trosedd yn Llyfrgell Blaenafon a chrybwyll rhai llyfrau sydd werth eu darllen os oeddech yn hoff iawn o'r genre yma.

Gydag enillydd Gwobr Mcllvanney (Llyfr Trosedd y Flwyddyn yn yr Alban) yn cael ei ddatgelu ar ddechrau mis nesaf, dyma fwy o awgrymiadau ar eich cyfer, â phob un ohonynt wedi eu hysgrifennu gan awduron sy’n Albanwyr â chyfle i ennill y wobr ar 8 Medi.

Cold Earth gan Ann Cleeves - Yn angladd ei hen gyfaill Magnus Tait, mae Jimmy Perez yn gwylio'r llif o fwd a dŵr mawnog yn torri drwy dŷ crofft yn ei lwybr. Mae pawb yn meddwl bod y crofft yn segur, ond yn y llanast mae'n dod o hyd i gorff gwraig, ei gwallt yn dywyll a hithau'n gwisgo ffrog sidan goch. Yn ei feddwl, mae hi'n rhannu ei dras o ardal Môr y Canoldir ac yn fuan mae olrhain ei hunaniaeth yn dod yn obsesiwn.



The Long Drop gan Denise Mina - Mae William Watt am atebion am lofruddiaeth ei deulu. Mae'r atebion gan Peter Manuel. Ond mae Peter Manuel yn gelwyddgi. Mae William Watt yn ddyn busnes cyffredin, yn ffŵl, dringwr cymdeithasol. Mae Peter Manuel yn gelwyddgi a throseddwr enwog. Mae'n honni y gall gael gafael ar y gwn a ddefnyddiwyd i lofruddio teulu Watt.

Un noson o Ragfyr ym 1957, mae Watt yn cyfarfod Manuel mewn bar yng Nglasgow i gael gwybod beth mae'n ei wybod.

Perfect Remains gan Helen Fields -   Ar fynydd anghysbell yn yr Ucheldiroedd, mae corff Elaine Buxton yn llosgi. Y cyfan fydd ar ôl i adnabod y gyfreithwraig uchel ei pharch yw ei dannedd a darn o ddillad. Mewn ystafell gudd yng nghefn tŷ yng Nghaeredin, mae'r gwir Elaine Buxton yn sgrechian i mewn i'r tywyllwch. Mae'r Ditectif Arolygydd Luc Callanach yn cael ei hun mewn ras yn erbyn y cloc. Neu felly mae'n ei gredu ... Bydd tynged wirioneddol y merched yn profi i fod yn fwy o ddirdro na y gallai fod wedi dychmygu erioed.

Games People Play gan Owen Mullen - Mae Lily Hamilton tri ar ddeg mis oed yn cael ei chipio tra bod ei rhieni ond ychydig lathenni i ffwrdd. Tri diwrnod yn ddiweddarach mae'r tad trallodus yn troi i fyny yn swyddfa Charlie Cameron ymchwilydd preifat . Mae Mark Hamilton yn credu ei fod yn gwybod pwy sydd wedi dwyn ei ferch. A pham. Yn groes i'r graen, mae Charlie yn cymryd rhan yn yr achos a phan fydd mwy o gyrff yn cael eu darganfod mae'r gwirionedd ofnadwy yn taro: mae yna lofrudd cyfresol na chanfuwyd ei waith ers degawdau. Ai babi Lily yw dioddefwr diweddaraf y gwallgofddyn?


No comments:

Post a Comment

We would love to hear from you.
Please leave comments below.