Friday, 27 October 2017

Man Booker Prize Winner 2017



George Saunders
The winner of this year’s Man Booker Prize for fiction has been announced as ‘Lincoln in the Bardo’, by George Saunders.
Saunders is only the second American to win the coveted prize, following Paul Beatty’s win last year. The rules changed 4 years ago to include writers of any nationality writing in English and published in the UK.
Although Saunders is an internationally renowned short story writer, this is his first full length novel. Lola Young, chair of the judges described the novel as unique and extraordinary and admitted that at first she found the layout, which is reminiscent of a screen play, challenging.


The American Civil War rages while President Lincoln's beloved eleven-year-old son lies gravely ill. In a matter of days, Willie dies and is laid to rest in a Georgetown cemetery. Newspapers report that a grief-stricken Lincoln returns to the crypt several times alone to hold his boy's body. From this seed of historical truth, George Saunders spins an unforgettable story of familial love and loss that breaks free of realism, entering a thrilling, supernatural domain both hilarious and terrifying. Willie Lincoln finds himself trapped in a transitional realm called, in Tibetan tradition, the Bardo - and as ghosts mingle, squabble, gripe and commiserate, and stony tendrils creep towards the boy, a monumental struggle erupts over young Willie's soul.

Unfolding in the graveyard over a single night, narrated by a dazzling chorus of voices, Lincoln in the Bardo is a thrilling exploration of death, grief and the deeper meaning and possibilities of life.      
            
           




Enillydd Gwobr Man Booker 2017

George Saunders

Enillydd Gwobr Man Booker am ffuglen eleni yw ‘Lincoln in the Bardo’, gan George Saunders.
Dim ond yr ail Americanwr i ennill y wobr yw Saunders, yn dilyn buddugoliaeth Paul Beatty llynedd. Newidiodd y rheolau 4 blynedd yn ôl i gynnwys awduron o unrhyw genedl sy’n ysgrifennu’n Saesneg ac yn cyhoeddi eu gwaith yn y DU.
Er bod Saunders yn adnabyddus yn rhyngwladol am ei straeon byrion, dyma’i nofel lawn gyntaf.  Disgrifiodd Lola Young, cadeirydd y beirniaid y nofel fel un unigryw ac eithriadol a chyfaddefodd bod y gosodiad, sy’n debyg i ffurf sgript ffilm, wedi bod yn heriol ar y cychwyn.


Mae Rhyfel Cartref America yn rhemp tra bod mab un ar ddeg mlwydd oed yr Arlywydd Lincoln yn ddifrifol wael. Ymhen dyddiau, mae Willie’n marw ac yn cael ei gladdu mewn mynwent yn Georgetown. Mae papurau newydd yn adrodd bod Lincoln, yn ei alar, yn dychwelyd i’r bedd nifer o weithiau ar ei ben ei hun i ddal corff ei fab. O’r hedyn yma, mae  George Saunders yn gweu stori fythgofiadwy am gariad teuluol a cholled sy’n torri’n rhydd o realaeth ac ym mynd i dir cyffrous, goruwchnaturiol sy’n ddoniol ac yn ddychrynllyd. Mae Willie Lincoln yn cael ei hun yn gaeth mewn arall fyd a elwir, yn nhraddodiad Tibet, y Bardo - a thra bod ysbrydion yn cymysgu, yn cecru, yn cwyno ac yn cydymdeimlo, a thendriliau caregog yn cropian tuag at y bachgen, mae yna frwydr ffyrnig dros enaid Willie bach.
Mae’r stori’n datblygu mewn mynwent dros gyfnod un noson ac mae’n cael ei hadrodd gan gorws o leisiau disglair.  Mae Lincoln in the Bardo yn fforiad cyffrous i fyd marwolaeth, galar ac ystyr dyfnach a phosibiliadau bywyd.

Friday, 20 October 2017

16-22 October 2017 - National Baking Week


It’s National Baking Week and with The Great British Bake Off back on our screens it seems like a good time to focus on all things scrummy, so here are ten great cook books to get you started.

Candice Brown – Comfort: delicious bakes and family treats.

Last year’s bake off winner has brought out her first cookbook - all about home comforts. These are the recipes Candice learned to bake from her nan and mum, recipes close to her heart, that should be served up as a big generous slice.

Lorraine Pascale – Bake: 125 show-stopping recipes made simple
Delight friends and family with sweet and savoury bakes that are perfect for an array of tastes and dietary needs. Lorraine's friendly and thorough guidance makes it easy to master impressive celebration cakes.

Paul Hollywood – The Weekend Baker

Bake Off supremo, Paul Hollywood's book contains over 100 sweet and savoury recipes inspired by cities around the world including Paris, Copenhagen, Miami, New York and Naples. Why not take some time out in the kitchen and bake your way around the world with Paul.

Rachel Allen – Home Baking
Bestselling author and TV chef Rachel Allen presents the definitive baking guide. In this gorgeous new book, she combines simple yet brilliant techniques with delicious flavours. With over 140 easy-to-follow recipes, 'Home Baking' caters to your every baking need or whim.

Martin Chiffers and Emma Marsden – Bake Off Crème de la Crème.

Learn the tips and tricks of Britain's greatest pastry chefs with the book of the spectacular BBC series, from the team behind 'Great British Bake Off'. With patisserie skills broken down to their simplest elements, you will soon be familiar with the ingredients, equipment and chemistry behind the show stopping creations you see on-screen and in the best restaurants, and be inspired to make your own irresistibly indulgent treats.

Torek Malouf and the Hummingbird Bakers – The Hummingbird Bakery Cookbook
The original No. 1 bestselling book has been revised and expanded for 2017. The classic recipes have been fine-tuned and 8 new bakes added.

Martha Collison – Twist: creative ideas to reinvent your baking

Martha Collison amazed the judges and viewers alike as the youngest ever contestant in the 2014 series of 'The Great British Bake Off'. Martha shone with her Showstopper skills and extraordinary 'Technical Challenge' knowledge. Here in her first book, she offers a brilliant new approach to baking - a way to master baking, while adding 'twists' to recipes to make contemporary bakes that everyone will love.

Yotan Ottolenghi and Hele Goh – Sweet
In his stunning new baking and desserts cookbook Yotam Ottolenghi and his long-time collaborator Helen Goh bring fresh, exotic ingredients and spices to indulgent cakes, biscuits, tarts, puddings, cheesecakes and ice cream.

Richard Burr – BIY- bake it yourself: a manual for every day.

Another former Bake Off contestant, Richard’s book showcases his creativity and technical tips for achieving success every time you cook. Each recipe contains step-by-step guides and photos. Then there is an Easy, Intermediate or Advanced variation where you can practise your new skills. Richard's expert and reassuring instructions guide you throughout.

Susan Jane White – The Virtuous Tart: sinful but saintly recipes for sweets, treats and snacks.
Susan Jane takes you by the hand to guide you through wholesome alternatives to refined white sugar such as coconut sugar, date syrup, maple and raw honey; and shows you where to use superfood flours like quinoa and teff.

All together now, BAKE! 


16-22 Hydref 2017 - Wythnos Genedlaethol Pobi
Mae’n Wythnos Genedlaethol Pobi a chyda The Great British Bake Off yn ôl ar ein sgrîn mae’n amser da i ganolbwyntio ar bethau blasus felly dyma ddeg llyfr coginio i chi gael dechrau.

Candice Brown – Comfort: delicious bakes and family treats.

Mae enillydd ‘Bake Off’ llynedd wedi cyhoeddi ei llyfr cyntaf – am gysuron cartref. Dyma’r ryseitiau a ddysgodd Candice gan ei nain a’i mam, ryseitiau sy’n agos at ei chalon ac sy’n haeddu sleisen go fawr.

Lorraine Pascale – Bake: 125 show-stopping recipes made simple
Swynwch eich teulu a’ch ffrindiau gyda danteithion melys a sawrus sy’n berffaith ar gyfer gwahanol chwaethau ac anghenion deietegol. Mae arweiniad cyfeillgar a thrwyadl Lorraine yn ei gwneud yn hawdd meistroli teisennau trawiadol.

Paul Hollywood – The Weekend Baker

Pen-gogydd y Bake Off, mae llyfr Paul Hollywood yn cynnwys dros 100 o ryseitiau melys a sawrus a ysbrydolwyd gan ddinasoedd o gwmpas y byd gan gynnwys Paris, Copenhagen, Miami, Efrog Newydd a Napoli. Pam na chymerwch chi amser yn y gegin a phobi’ch ffordd o amgylch y byd gyda Paul?

Rachel Allen – Home Baking
Mae’r awdur a’r cogydd teledu Rachel Allen yn cyflwyno’r canllaw awdurdodol at bobi.  Yn y llyfr newydd hyfryd yma, mae’n cyfuno technegau syml ond campus gyda blas hyfryd. Gyda thros 140 o ryseitiau hawdd eu dilyn, bydd 'Home Baking' yn addas i’ch holl anghenion pobi.

Martin Chiffers and Emma Marsden – Bake Off Crème de la Crème.

Dysgwch gynghorion a thriciau cogyddion toes gorau Prydain gyda’r llyfr yma sy’n seiliedig   ar gyfres y BBC, o’r tîm y tu ôl i 'Great British Bake Off'.  Gyda sgiliau teisennau yn cael eu dangos yn syml, byddwch cyn hir yn gyfarwydd â’r cynhwysion, y cyfarpar a’r cemeg y tu ôl i’r creadigaethau ysblennydd ar y sgrin ac yn y bwytai gorau, a chewch eich ysbrydoli i wneud eich danteithion blasus eich hunain.

Torek Malouf and the Hummingbird Bakers – The Hummingbird Bakery Cookbook
Mae’r llyfr gwreiddiol wedi ei adolygu a’i ehangu ar gyfer 2017. Cafodd y ryseitiau clasurol eu mireinio a 8 newydd eu hychwanegu.

Martha Collison – Twist: creative ideas to reinvent your baking

Synnodd Martha Collison y beirniaid a’r gwylwyr fel ei gilydd fel y cystadleuydd ifancaf erioed yng nghyfres 2014 'The Great British Bake Off'. Disgleiriodd Martha gyda’i sgiliau a’i gwybodaeth anhygoel yn yr ‘Her Technegol'. Yn ei llyfr cyntaf yma mae’n cynnig dulliau newydd o bobi – ffordd o feistroli pobi, tra’n ychwanegu ‘troadau’ i ryseitiau i wneud prydiau cyfoes y bydd pawb yn hoffi.

Yotan Ottolenghi and Hele Goh – Sweet
Yn ei lyfr pobi a phwdinau newydd mae Yotam Ottolenghi a’i gyd-weithiwr hir-dymor Helen Goh yn dod â chynhwysion ffres, egsotig a sbeisys i gacennau, bisgedi, tartenni, pwdinau, a hufen ia.

Richard Burr – BIY- bake it yourself: a manual for every day.

Cystadleuydd arall yn Bake Off, mae llyfr Richard yn dangos ei greadigrwydd a thipiau technegol ar gyfer llwyddiant pob tro y byddwch yn coginio. Mae pob rysáit yn cynnwys canllawiau cam wrth gam a lluniau. Mae yna amrywiaethau Hawdd, Canolraddol ac Uwch ble gallwch ymarfer eich sgiliau newydd. Mae cyfarwyddiadau arbenigol a chalonogol Richard yn eich arwain ar hyd y ffordd.

Susan Jane White – The Virtuous Tart: sinful but saintly recipes for sweets, treats and snacks.
Mae Susan Jane yn eich arwain trwy dewisiadau amgen iachus yn lle siwgr gwyn fel siwgr cnau coco, triog datys, masarn a mêl amrwd; ac yn dangos i chi ble i ddefnyddio blawd siwper fwydydd fel cwinoa a theff

Pawb gyda’i gilydd nawr, POBWCH!




Friday, 13 October 2017

Prize Winning Books of 2017 - not to be missed


Man Booker International
David Grossman, A Horse Walks Into a Bar
An audience that has come expecting an evening of amusement instead sees a comedian falling apart on stage; an act of disintegration, a man crumbling, as a matter of choice, before their eyes. They could get up and leave, or boo and whistle and drive him from the stage, if they were not so drawn to glimpse his personal hell.

British Book Awards
Sarah Perry, The Essex Serpent
London 1893. When Cora Seaborne's controlling husband dies, she steps into her new life as a widow with as much relief as sadness. Retreating to the countryside with her son, she encounters rumours of the 'Essex Serpent', a creature of folklore said to have returned to roam the marshes. Cora is enthralled, believing it may be an undiscovered species. Setting out on its trail, she collides with local minister William Ransome, who thinks the cure for hysteria lies in faith, while Cora is convinced that science offers the answers. Despite disagreeing on everything, he and Cora find themselves drawn together, changing each other's lives in unexpected ways.

Bailey’s Women’s Prize for Fiction
Naomi Alderman, The Power
What if the power to hurt were in women's hands? Suddenly - tomorrow or the day after - teenage girls find that with a flick of their fingers, they can inflict agonising pain and even death. With this single twist, the four lives at the heart of Naomi Alderman's extraordinary, visceral novel are utterly transformed.

Arthur C Clark Award
Colson Whitehead, The Underground Railroad
Cora is a slave on a cotton plantation in Georgia. All the slaves lead a hellish existence, but Cora has it worse than most; she is an outcast even among her fellow Africans and she is approaching womanhood, where it is clear even greater pain awaits. When Caesar, a slave recently arrived from Virginia, tells her about the Underground Railroad, they take the perilous decision to escape to the North. 

Wainwright Golden Beer Book Prize
John Lewis-Stempel, Where Poppies Blow: The British Soldier, Nature, the Great War
At the most basic level, animals and birds provided interest to fill the blank hours in the trenches and billets. Bird-watching, for instance, was probably the single most popular hobby among officers. But perhaps more importantly, the ability of nature to endure, despite the bullets and blood, gave men a psychological, spiritual, even religious, uplift.

YA Book Prize
Patrice Lawrence, Orangeboy
Not cool enough, not clever enough, not street enough for anyone to notice me. I was the kid people looked straight through. Not anymore. Not since Mr Orange. Sixteen-year-old Marlon has made his mum a promise - he'll never follow his big brother, Andre, down the wrong path. So far, it's been easy, but when a date ends in tragedy, Marlon finds himself hunted. They're after the mysterious Mr Orange, and they're going to use Marlon to get to him. Marlon's out of choices - can he become the person he never wanted to be, to protect everyone he loves?

Waterstone’s Children’s Book Prize
Kiran Millwood Hargrave, The Girl of Ink and Stars
When Isabella's friend disappears, she volunteers to guide the search party. As a mapmaker's daughter, she's equipped with elaborate ink maps and knowledge of the stars, eager to navigate the island's forgotten heart. But beneath the mountains a legendary fire demon awakens, and her journey is fraught with danger.








Llyfrau a enillodd Wobrau yn 2017 - peidiwch â’u colli

Gwobr Ryngwladol Man Booker
David Grossman, A Horse Walks Into a Bar

Mae cynulleidfa sydd wedi dod am noson o ddifyrrwch yn gweld comedïwr yn syrthio’n ddarnau ar y llwyfan yn lle; chwalfa, dyn yn dadfeilio, o’i wirfodd, o flaen eu llygaid. Fe allen nhw godi a gadael, neu fwio a chwibanu a’i yrru o’r llwyfan, pe na baen nhw wedi eu denu gymaint i gael cipolwg ar ei uffern bersonol.

Gwobrau Llyfrau Prydeinig
Sarah Perry, The Essex Serpent

Llundain 1893. Pan fo gŵr Cora Seaborne yn marw, mae’n camu i fywyd newydd fel gwraig weddw gyda rhyddhad yn gymaint â thristwch.  Wrth gilio i gefn gwlad gyda’i mab, daw i glywed sïon am ‘Sarff Essex', creadur chwedlonol sydd, yn ôl y sôn wedi dychwelyd i’r corsydd.  Mae Cora’n cael ei chyfareddu, gan gredu mai rhywogaeth na chafodd ei darganfod eto ydyw. Wrth iddi fynd ar ôl y sarff, mae’n cyfarfod â gweinidog lleol William Ransome, sy’n credu mai ffydd sy’n gwella hysteria, tra bod Cora’n credu mai mewn gwyddoniaeth mae’r ateb. Er eu bod yn anghytuno ar bopeth, mae Cora ag ef yn nesáu at ei gilydd, gan newid eu bywydau mewn ffyrdd annisgwyl.

Gwobr Bailey’s i Fenywod am Ffuglen
Naomi Alderman, The Power

Beth pe bai’r grym i frifo yn nwylo menywod.  Yn sydyn – heddiw neu’r diwrnod wedyn – mae merched yn eu harddegau’n canfod bod modd iddyn nhw, wrth glicio’u bysedd, achosi poen arteithiol neu hyd yn oed marwolaeth.  Mewn dim o dro mae’r pedwar bywyd wrth galon nofel anhygoel ac angerddol Naomi Alderman yn cael eu trawsnewid yn llwyr.

Gwobr Arthur C Clark
Colson Whitehead, The Underground Railroad

Caethferch yw Cora ar blanhigfa gotwm yn Georgia. Bywyd ofnadwy sydd gan y caethweision i gyd, ond mae Cora’n ei chael hi’n waeth; mae hi’n alltud hyd yn oed gan ei chyd-Affricanwyr ac mae’n nesáu at fod yn fenyw, sy’n golygu mwy byth o boen. Pa fo Caesar, caethwas sydd newydd gyrraedd o Virginia, yn dweud wrthi am y Rheilffordd Danddaearol, maen nhw’n penderfynu dianc i’r Gogledd.

Gwobr Lyfrau Wainwright Golden Beer
John Lewis-Stempel, Where Poppies Blow: The British Soldier, Nature, the Great War

Ar lefel sylfaenol roedd anifeiliaid ac adar yn cynnig rhywbeth i lanw’r oriau maith yn y  ffosydd a’r biledau. Gwylio adar, er enghraifft oedd y difyrrwch mwyaf poblogaidd gan swyddogion.  Ond, efallai’n fwy pwysig, roedd gallu natur i oroesi, er gwaethaf y bwledi a’r gwaed, yn codi dynion yn seicolegol, yn ysbrydol a hyd yn oed yn grefyddol.

Gwobr Lyfrau YA
Patrice Lawrence, Orangeboy

Ddim yn ddigon cŵl, ddim yn ddigon clyfar, ddim yn ddigon ‘stryd’ i unrhyw un gymryd sylw ohono’ i. Fi oedd yr un yr oedd pawb yn edrych heibio iddo.  Dim mwy. Dim ers Mr Orange. Mae Marlon, 16 oed wedi addo’i fam na fydd e byth yn dilyn ôl troed ei frawd mawr, Andre, ar hyd y llwybr anghywir.  Hyd yn hyn mae wedi bod yn hawdd, ond pan fo dêt yn gorffen yn drasig, mae Marlon fel petai’n cael ei hela.  Maen nhw ar ôl Mr Orange, ac maen nhw’n mynd i ddefnyddio Marlon i’w ddal.  Does gan Marlon ddim dewis - gall e droi i fod y person nad oedd e am fod, er mwyn gwarchod pawb y mae’n eu caru?

Gwobr Llyfrau Plant Waterstone’s
Kiran Millwood Hargrave, The Girl of Ink and Stars

Pan fo ffrind Isabella’n diflannu, mae’n gwirfoddoli i arwain y criw chwilio.  Fel merch i wneuthurwr mapiau, mae ganddi fapiau inc cymhleth a gwybodaeth o’r sêr, ac mae’n awyddus i lywio trwy galon goll yr ynys. Ond o dan y mynyddoedd, mae ysbryd tân chwedlonol yn deffro, ac mae ei thaith yn llawn perygl.



Friday, 6 October 2017

World Mental Health Day 10 Oct 2017


Reading Well Mood-boosting Books is a national promotion of uplifting titles, including novels, poetry and non-fiction. The books are all recommended by readers and reading groups.

This year’s list of 15 titles and 2 series have been chosen by young people, but they’re not just for kids. Who doesn’t enjoy a trip down memory lane by reading a favourite book from childhood?

Here's a selection from the list.

Timeless Classics
Michael Bond - A Bear Called Paddington
The Browns first met Paddington on a railway station - Paddington station, in fact. He had travelled all the way from Darkest Peru with only a jar of marmalade, a suitcase and his hat. The Browns soon found that Paddington was a very unusual bear.


Roald Dahl - Matilda
Matilda's parents have called her some terrible things. The truth is, she's a genius and they're the stupid ones. Find out how she gets the better of them and her spiteful headmistress, as well as discovering that she has a very special power.



Dodie Smith – I Capture the Castle
This is the journal of Cassandra Mortmain. First, there is her eccentric father. Then there is her sister, Rose - and her stepmother, Topaz. Finally, there is Stephen, who is in love with Cassandra. Cassandra records her feelings on all of them.





Fiction for Young (and Young at Heart) Adults


Holly Bourne - Am I Normal Yet?
Evie, Amber and Lottie: three girls facing down tough issues with the combined powers of friendship, feminism and cheesy snacks. Both hilarious and heart-rending, this is Evie's no-holds-barred story of struggling to live a 'normal' teen life in the grip of OCD.


Patrick Ness - More Than This
A boy called Seth drowns, desperate and alone in his final moments, losing his life as the pounding sea claims him. But then he wakes. How is that possible? And where is this place? 




R J Palacio – Wonder
Wonder' is the funny, sweet and incredibly moving story of Auggie Pullman. Born with a terrible facial abnormality, this shy, bright ten-year-old has been home-schooled by his parents for his whole life, in an attempt to protect him from the stares and cruelty of the outside world.



Rainbow Rowell - Eleanor and Park
Eleanor is the new girl in town, and with her chaotic family life, her mismatched clothes and unruly red hair, she couldn't stick out more if she tried. Park is the boy at the back of the bus. Black T-shirts, headphones, head in a book - he thinks he's made himself invisible. But not to 
Eleanor. 

Lisa Williamson – The Art of Being Normal
David is funny and quirky and has always felt different from other people - but he also has a huge secret that only his two best friends know. Ever since he can remember, he has felt like a girl trapped in the body of a boy.




Series
Chris Bradford – Bodyguard Series
J K Rowling – Harry Potter Series

Poetry
Rupi Kaur – Milk and Honey
This is a collection of poetry and prose about survival. The book is divided into four chapters, and each chapter serves a different purpose, deals with a different pain, heals a different heartache.

Non Fiction
Chimamanda Ngozi Adichie – We Should All be Feminists
What does 'feminism' mean today? That is the question at the heart of this personal, eloquently-argued essay by Chimamanda Ngozi Adichie, the award-winning author of 'Americanah' and 'Half of a Yellow Sun'.









Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 10 Hyd 2017

Ymgyrch cenedlaethol i hybu llyfrau dyrchafol, gan gynnwys nofelau, barddoniaeth a llyfrau ffeithiol yw Mood-boosting Books gan Reading Well.

Eleni dewiswyd y rhestr o 15 o deitlau a 2 gyfres gan bobl ifanc, ond nid dim ond ar gyfer plant maen nhw. Pwy sydd ddim yn hoffi hel atgofion trwy ddarllen hoff lyfr o amser  plentyndod?

Dyma ddetholiad o’r rhestr.

Clasuron

Michael Bond – A Bear Called Paddington
Mae’r teulu Brown yn cwrdd â Paddington am y tro cyntaf mewn gorsaf drenau - gorsaf Paddington fel mae’n digwydd. Roedd wedi teithio’r holl ffordd o Beriw gyda dim ond pot o farmalêd, cês dillad a’i het. Cyn hir daeth y teulu i wybod fod Paddington yn arth anarferol iawn.



Roald Dahl – Matilda
Mae rhieni Matilda wedi galw rhai enwau cas iawn arni. Ond y gwir yw ei bod hi’n ddeallus iawn a nhw yw’r twpsod. Dysgwch sut y bydd hi’n cael y gorau arnyn nhw a’i phrifathrawes sbeitlyd, yn ogystal â dysgu bod ganddi bŵer arbennig iawn.




Dodie Smith – I Capture the Castle
Dyma ddyddiadur Cassandra Mortmain. Yn gyntaf, mae ei thad echreiddig. Yna mae ei chwaer, Rose - a’i llysfam, Topaz. Yn olaf, mae Stephen, sydd mewn cariad â Cassandra. Mae Cassandra’n cofnodi ei theimladau am bob un ohonyn nhw.



Ffuglen i Bobl Ifanc (a’r ifanc eu hysbryd)

Holly Bourne – Am I Normal Yet?
Evie, Amber a Lottie: tair merch sy’n wynebu problemau anodd gyda chyfuniad o gyfeillgarwch, ffeministiaeth a thameidiau cawslyd.  Yn ddoniol ac yn ddirdynnol, dyma stori di-flewyn ar dafod Evie o ymdrechu i fyw bywyd ‘normal' gydag anhwylder gorfodaeth obsesiynol.


Patrick Ness – More than This
Mae bachgen o’r enw Seth yn boddi, mewn anobaith ac yn unig yn ei eiliadau olaf, yn colli ei fywyd wrth i’r môr ei feddiannu.  Ond yna, mae’n deffro. Sut mae hyn yn bosibl? A ble yw’r lle hyn?  




R J Palacio – Wonder
Stori ddoniol, felys a hynod afaelgar Auggie Pullman yw Wonder'. Ganwyd ef ag anffurfiad ofnadwy ar ei wyneb ac mae’r bachgen deg oed swil a deallus yma wedi cael ei addysg yn ei gartref gan ei rieni ei holl fywyd, er mwyn ei ddiogelu rhag llygadrythiadau a chreulondeb y byd tu fas.



Rainbow Rowell - Eleanor and Park
Mae Eleanor yn newydd yn y dre a chyda’i bywyd  teuluol dryslyd, ei dillad anghydweddol a’i gwallt coch gwyllt, fedrai hi ddim sefyll allan mwy. Park yw’r bachgen yng nghefn y bws.  Crys T du, clustffonau, pen mewn llyfr – mae’n meddwl ei fod yn anweledig.  Ond nid i Eleanor. 




Lisa Williamson – The Art of Being Normal
Mae David yn ddoniol ac yn od ac mae bob amser wedi teimlo’n wahanol i eraill – ond mae ganddo gyfrinach fawr a dim ond ei ddau ffrind gorau sy’n gwybod amdani.  Ers cyn cof, mae ei wedi teimlo fel merch mewn corff bachgen.




Cyfresi
Chris Bradford – Cyfres Bodyguard
J K Rowling – Cyfres Harry Potter

Barddoniaeth
Rupi Kaur – Milk and Honey
Casgliad o farddoniaeth a rhyddiaith am oroesi.  Pedair pennod sydd i’r llyfr ac mae amcan gwahanol i bob pennod, maen nhw’n delio â phoen gwahanol, yn gwella briw gwahanol.

Ffeithiol
Chimamanda Ngozi Adichie – We Should All be Feminists
Beth yw ystyr 'ffeministiaeth' heddiw? Dyna’r cwestiwn wrth galon y traethawd personol, huawdl yma gan Chimamanda Ngozi Adichie, awdur arobryn 'Americanah' a 'Half of a Yellow Sun'.