Friday 27 October 2017

Man Booker Prize Winner 2017



George Saunders
The winner of this year’s Man Booker Prize for fiction has been announced as ‘Lincoln in the Bardo’, by George Saunders.
Saunders is only the second American to win the coveted prize, following Paul Beatty’s win last year. The rules changed 4 years ago to include writers of any nationality writing in English and published in the UK.
Although Saunders is an internationally renowned short story writer, this is his first full length novel. Lola Young, chair of the judges described the novel as unique and extraordinary and admitted that at first she found the layout, which is reminiscent of a screen play, challenging.


The American Civil War rages while President Lincoln's beloved eleven-year-old son lies gravely ill. In a matter of days, Willie dies and is laid to rest in a Georgetown cemetery. Newspapers report that a grief-stricken Lincoln returns to the crypt several times alone to hold his boy's body. From this seed of historical truth, George Saunders spins an unforgettable story of familial love and loss that breaks free of realism, entering a thrilling, supernatural domain both hilarious and terrifying. Willie Lincoln finds himself trapped in a transitional realm called, in Tibetan tradition, the Bardo - and as ghosts mingle, squabble, gripe and commiserate, and stony tendrils creep towards the boy, a monumental struggle erupts over young Willie's soul.

Unfolding in the graveyard over a single night, narrated by a dazzling chorus of voices, Lincoln in the Bardo is a thrilling exploration of death, grief and the deeper meaning and possibilities of life.      
            
           




Enillydd Gwobr Man Booker 2017

George Saunders

Enillydd Gwobr Man Booker am ffuglen eleni yw ‘Lincoln in the Bardo’, gan George Saunders.
Dim ond yr ail Americanwr i ennill y wobr yw Saunders, yn dilyn buddugoliaeth Paul Beatty llynedd. Newidiodd y rheolau 4 blynedd yn ôl i gynnwys awduron o unrhyw genedl sy’n ysgrifennu’n Saesneg ac yn cyhoeddi eu gwaith yn y DU.
Er bod Saunders yn adnabyddus yn rhyngwladol am ei straeon byrion, dyma’i nofel lawn gyntaf.  Disgrifiodd Lola Young, cadeirydd y beirniaid y nofel fel un unigryw ac eithriadol a chyfaddefodd bod y gosodiad, sy’n debyg i ffurf sgript ffilm, wedi bod yn heriol ar y cychwyn.


Mae Rhyfel Cartref America yn rhemp tra bod mab un ar ddeg mlwydd oed yr Arlywydd Lincoln yn ddifrifol wael. Ymhen dyddiau, mae Willie’n marw ac yn cael ei gladdu mewn mynwent yn Georgetown. Mae papurau newydd yn adrodd bod Lincoln, yn ei alar, yn dychwelyd i’r bedd nifer o weithiau ar ei ben ei hun i ddal corff ei fab. O’r hedyn yma, mae  George Saunders yn gweu stori fythgofiadwy am gariad teuluol a cholled sy’n torri’n rhydd o realaeth ac ym mynd i dir cyffrous, goruwchnaturiol sy’n ddoniol ac yn ddychrynllyd. Mae Willie Lincoln yn cael ei hun yn gaeth mewn arall fyd a elwir, yn nhraddodiad Tibet, y Bardo - a thra bod ysbrydion yn cymysgu, yn cecru, yn cwyno ac yn cydymdeimlo, a thendriliau caregog yn cropian tuag at y bachgen, mae yna frwydr ffyrnig dros enaid Willie bach.
Mae’r stori’n datblygu mewn mynwent dros gyfnod un noson ac mae’n cael ei hadrodd gan gorws o leisiau disglair.  Mae Lincoln in the Bardo yn fforiad cyffrous i fyd marwolaeth, galar ac ystyr dyfnach a phosibiliadau bywyd.

No comments:

Post a Comment

We would love to hear from you.
Please leave comments below.