After a few months absence
we’re returning to our Desert Island Books feature. Our latest castaway is
Norah Williams, Health & Wellbeing Information and Support Officer based at
Cwmbran Library.
Michael Connolly - Harry Bosch

Colin McLaren – JFK The Smoking Gun

Joanne Harris -
Chocolat

It’s the tale of the effect a
stranger has on a conservative French village.
Vianne Rocher breezes in at the beginning of Lent and opens a chocolatière
on the main square opposite the Church.
She is a single mother with a 6 year old daughter. During the traditional season of fasting and
self-denial, she gently changes the lives of the villagers who visit her with a
combination of sympathy, subversion and a little magic. The village priest and
his supporters are scandalised. Tensions
run high as Easter approaches - the ritual of the church versus the indulgence
of chocolate makes a showdown between Father Reynaud and Vianne inevitable.
Another story set in Europe.
A charming comedy of errors played out in the Tuscan
sun. There’s love, sex, death, crises,
catastrophes, natural disasters, manmade disasters, human foolishness, heavenly
interventions, epiphanies and wonderful Tuscan food, mouth-wateringly
described. When Leo Pizzola inherits the family farm, he returns from Chicago to
his hometown of Santo Fico in Tuscany to make his fortune and find one woman, his
first love Marta Fortino - she married someone else and is now a widow. The town is dying, even the beautiful fountain
in the centre of Santo Fico has mysteriously dried up. A miracle is needed.
The novel reminds me of
moments in my life when, with the advantage of hindsight, I can see how adverse
events inexplicably became avenues of good fortune.
Antoine Laurain -The
President's Hat

Dylan Thomas – Under Milk Wood

8 Llyfr yr Ynys Bellennig
Ar
ôl ychydig fisoedd o absenoldeb, rydym yn dychwelyd at ein herthygl Llyfrau’r
Ynys Bellennig. Y diweddaraf i’w gadael ar yr ynys yw Norah Williams, Swyddog
Gwybodaeth a Chymorth Iechyd a Lles yn Llyfrgell Cwmbrân.
Michael Connolly - Harry Bosch
Fy hoff genre yw nofelau
cyffro Americanaidd ac mae
Michael Connolly yn rhywun rwy’n dychwelyd ato dro
ar ôl tro. Rwy’n gwybod amdano ers blynyddoedd lawer ond erioed wedi darllen ei
lyfrau. Yna, mi welais ‘The Lincoln Lawyer’ a darganfod y cymeriad Micky Haller
- roeddwn wrth fy modd gyda’r gyfres. Roedd ei hanner brawd, Harry Bosch, yn
ymddangos mewn ambell le gan brocio fy niddordeb. Rwy’n hoffi cael y stori lawn
ac felly mi es yn ôl i’r llyfr cyntaf un ac yna sicrhau bod y nesaf wedi ei
archebu, ac yna’r nesa’ a’r nesa’ ... Cymerodd ychydig o amser ond rwyf wedi
dal i fyny nawr, a bellach yn aros am y bennod nesaf.
Colin McLaren – JFK The Smoking Gun
Rwyf
wrth fy modd yn darllen llyfrau ffeithiol. Rwyf hefyd yn
ffan o’r theori
cynllwynio, a’r fwyaf yn yr 20fed ganrif yw pwy saethodd JFK? Mae damcaniaeth McLaren yn dryllio’r chwedlau
sydd wedi cysgodi’r achos hwn am fwy na 50 o flynyddoedd. Mae McLaren yn
dditectif wedi ymddeol yn Awstralia gydag enw da iawn o ran datrys achosion.
Edrychodd ar y saethu fel ‘achos oer’ trwy ddarllen pob dogfen, adroddiad (gan
gynnwys un Comisiwn Warren), damcaniaeth a datganiad tyst. Am bedair blynedd
defnyddiodd ei wybodaeth arbenigol sylweddol i ddatguddio’r hyn oedd yn amlwg
trwy’r amser. Gwaith wedi ei ymchwilio’n drwyadl ac wedi ei ysgrifennu’n dda.
Darllenwch hwn ac yna ceisio cynnal y myth – fedrwn i ddim.
Joanne Harris - Chocolat
Pwy nad yw’n hoffi siocled? Mae hyn yn rhywbeth y gwn y
buaswn yn ei golli ond byddai’n anymarferol mynd â pheth gyda mi. Yn hytrach,
mi fuaswn yn mynd â’r llyfr yma yn ei le.
Hanes yr effaith y mae
dieithryn yn ei chael ar bentref ceidwadol yn Ffrainc ydyw. Mae Vianne Rocher yn cyrraedd y pentref ar
ddechrau’r Grawys ac yn agor siop siocled ar y prif sgwâr, gyferbyn â’r eglwys.
Mae’n fam sengl gyda merch 6 oed. Yn ystod y cyfnod traddodiadol o ymprydio a
hunan-wâd, mae’n araf yn newid bywydau’r pentrefwyr sy’n dod i’w gweld gyda
chyfuniad o gydymdeimlo, tanseilio ac
ychydig o hud a lledrith. Mae offeiriad y pentref a’i gefnogwyr yn gwaredu ati.
Mae’r tensiwn yn uchel wrth i’r Pasg ddynesu - mae defodau’r eglwys yn erbyn
pleserau siocled yn golygu bod gwrthdrawiad rhwng y Tad Reynaud a Vianne yn
anochel.
Stori arall wedi ei lleoli
yn Ewrop.
Comedi swynol yn digwydd dan haul Twsgani. Mae cariad,
marwolaeth, argyfyngau, trychinebau naturiol, trychinebau dynol, ffolineb
dynol, ymyraethau nefol, epiffani a bwyd hyfryd Twsgani, y cwbl wedi ei
ddisgrifio’n wych. Pan fo Leo Pizzola yn etifeddu fferm y teulu, mae’n
dychwelyd o Chicago i dref ei enedigaeth yn Santo Fico yn Nhwsgani i wneud ei
ffortiwn a chael hyd i fenyw, ei gariad cyntaf, Marta Fortino - priododd hi
rywun arall ac mae bellach yn wraig weddw. Mae’r dref yn marw; mae hyd yn oed y
ffynnon hyfryd yng nghanol Santo Fico wedi mynd yn sych. Mae angen gwyrth.
Mae’r nofel yn f’atgoffa o
adegau yn fy mywyd pan, wrth edrych yn ôl, medraf weld sut mae digwyddiadau
andwyol yn troi’n ffortiwn dda.
Antoine Laurain -The President's Hat
Mae’r Ffrancwyr yn enwog
am greu bywyd mewnol ar gyfer
pethau difywyd. Mae’r cyfan yn dechrau pan fo
Arlywydd Ffrainc yn gadael ei het mewn gwesty. Caiff yr het ei cholli a’i
chanfod nifer o weithiau. Mae’n rhoi teimlad o hyder ac awdurdod i bob un sy’n
cael hyd iddi. Mae’n ddyfais sy’n cysylltu casgliad o straeon yn braf, gan
ganiatáu i ni weld y newidiadau a ddaw i fywydau’r rhai sy’n colli a chael hyd
i’r het. Llyfr bach ysgafn a hynod sy’n hawdd ei ddarllen mewn un eisteddiad.
Dylan Thomas – Under Milk Wood
Rwyf
newydd sylweddoli bod fy newisiadau oll wedi eu lleoli
mewn gwledydd tramor.
Rwy’n falch o fod yn Gymraes; fy unig gywilydd yw nad wyf yn siarad yr iaith.
Felly, ar gyfer fy newis olaf, hoffwn fynd â hwn oherwydd ei Gymreictod. Dylan
Thomas ar ei orau: cymeriadau gwych, iaith sy’n peintio lluniau, Straeon
Caergaint Chaucer modern – mae bywyd oll yma ac mae’n fywyd CYMREIG.
No comments:
Post a Comment
We would love to hear from you.
Please leave comments below.