Calling all
crime and thriller fans. The CWA Dagger Award Winners are announced. Here’s a
sample, for the full list of category winners, short and long listed books, click
on the link.
https://thecwa.co.uk/the-daggers/
https://thecwa.co.uk/the-daggers/
Gold Dagger
(Best Crime Novel of the Year)
Amid the worst drought to ravage Australia
in a century, it hasn't rained in small country town Kiewarra for two years,
tensions in the community become unbearable when three members of the Hadler
family are brutally murdered. Everyone thinks Luke Hadler, who committed
suicide after slaughtering his wife and six-year-old son, is guilty. Policeman
Aaron Falk returns to the town of his youth for the funeral of his childhood
best friend, and is unwillingly drawn into the investigation. As questions
mount and suspicion spreads through the town, Falk is forced to confront the
community that rejected him 20 years earlier.
Ian Fleming
Steel Dagger (Best Thriller)
20 years retired, David Cartwright can
still spot when the stoats are on his trail. Radioactive secrets and unfinished
business go with the territory on Spook Street: he's always known there would
be an accounting. And he's not as defenceless as they might think. Jackson Lamb
worked with Cartwright back in the day. He knows better than most that this is
no vulnerable old man.
John Creasy New
Blood Dagger (Best Crime Novel by a Debut Author)
When three-year-old Harry Monroe goes
missing, Tall Oaks is the sort of community you'd expect to rally round and find
him before the day is out. Someone must know something. But months later his
desperate mother Jess is an increasingly isolated figure, still printing off
posters of her son and putting them on display around the town with the police
investigation apparently at a standstill. And it's becoming quite clear that
however well they all think they know each other, there are secrets tucked away
that no one wants to see the light of day.
India, 1919. Captain Sam Wyndham, former
Scotland Yard detective, is a new arrival to Calcutta. Desperately seeking a
fresh start after his experiences during the Great War, Wyndham has been
recruited to head up a new post in the police force. But with barely a moment
to acclimatise to his new life or to deal with the ghosts which still haunt
him, Wyndham is caught up in a murder investigation that will take him into the
dark underbelly of the British Raj. A senior official has been murdered, and a
note left in his mouth warns the British to quit India - or else.
Mari Hannah
Diamond Dagger
(Awarded to an author whose crime writing career has been marked by sustained
excellence and who has made a significant contribution to the genre)
Ann
Cleeves
Gwobr Dagger Cymdeithas Awduron Trosedd
Yn galw holl edmygwyr straeon trosedd a chyffro.
Cyhoeddir Enillwyr Gwobrau Dagr CWA. Dyma sampl - i weld y rhestr lawn o
enillwyr categori, llyfrau ar y rhestr hir a’r rhestr fer, cliciwch ar y
ddolen.
https://thecwa.co.uk/the-daggers/
https://thecwa.co.uk/the-daggers/
Dagr Aur (Nofel Drosedd Orau’r Flwyddyn)
Yng nghanol y sychdwr gwaethaf i effeithio Awstralia mewn
canrif, nid yw wedi glawio yn nhref fechan wledig Kiewarra am ddwy flynedd.
Mae’r tensiwn yn y gymuned yn mynd yn annioddefol pan fydd tri aelod o’r teulu
Hadler yn cael eu lladd. Mae pawb yn meddwl bod Luke Hadler, a laddodd ei hun
ar ôl llofruddio ei wraig a’i fab chwech oed, yn euog. Mae’r plismon Aaron Falk
yn dychwelyd i dref ei ieuenctid ar gyfer angladd ei ffrind gorau, ac yn cael
ei dynnu i mewn i’r ymchwiliad, yn erbyn ei ewyllys. Wrth i’r cwestiynau a’r
amheuon lifo drwy’r dref, mae Falk yn cael ei orfodi i wynebu’r gymuned a’i wrthododd
ugain mlynedd ynghynt.
Dagr Ddur Ian Fleming (Nofel Gyffro Orau)
Wedi ymddeol am 20 mlynedd, mae David Cartwright yn dal i
fedru gweld pan fydd y carlymod ar ei ôl. Mae cyfrinachau ymbelydrol a phethau
anorffenedig yn rhan annatod o Spook Street: mae wastad wedi gwybod y bydd yn
rhaid wynebu pethau. Ac nid yw mor ddi-amddiffyn ag y maent yn ei feddwl.
Gweithiodd Jackson Lamb gyda Cartwright yn y gorffennol. Mae ef yn gwybod yn
well na llawer nad hen ddyn diymadferth yw hwn.
Dagr Gwaed Newydd John Creasy (Nofel Drosedd Orau gan
Awdur Newydd)
Pan
fydd Harry Monroe, sy'n dair oed, yn mynd ar goll, byddech yn disgwyl i gymuned
fel Tall Oaks fod yn gefn a cheisio dod o hyd iddo cyn diwedd dydd. Rhaid bod
rhywun yn gwybod rhywbeth. Ond fisoedd yn ddiweddarach, mae Jess, ei fam druan,
yn ffigwr fwyfwy anghysbell, sydd wrthi’n argraffu posteri o'i mab a'u
harddangos o gwmpas y dref tra bod ymchwiliad yr heddlu yn sefyll yn ei unfan.
Mae'n dod yn eithaf clir, fodd bynnag, waeth pa mor dda y maen nhw'n meddwl eu
bod yn adnabod ei gilydd, mae 'na gyfrinachau nad oes neb eisiau eu datgelu.
Dagr Hanesyddol Endeavour (Nofel Drosedd Hanesyddol Orau)
India, 1919. Mae’r Capten Sam Wyndham, cyn-dditectif gyda
Scotland Yard, yn cyrraedd Calcutta. Eisiau cychwyn newydd ar ôl ei brofiadau
yn y Rhyfel Mawr, mae Wyndham wedi ei recriwtio i swydd newydd yn yr heddlu.
Ond heb amser i ddod i arfer â’i fywyd newydd neu i ddelio â’r ysbrydion sy’n
dal i aflonyddu arno, mae Wyndham yng nghanol ymchwiliad i lofruddiad a fydd yn
mynd ag o i grombil tywyll yr Oruchwyliaeth Brydeinig. Mae uwch swyddog wedi ei
lofruddio, ac mae nodyn yn ei geg yn rhybuddio Prydain i adael India - neu...
Mari Hannah
Dagr Diemwnt
(Rhoddir i awdur y mae ei yrfa ysgrifennu yn
nodedig oherwydd rhagoriaeth gyson ac sydd wedi gwneud cyfraniad arwyddocaol
i’r genre)
Ann Cleeves
No comments:
Post a Comment
We would love to hear from you.
Please leave comments below.