Friday 26 January 2018

The Top 10 Best Selling Books of 2017



It’s time to look back on 2017 to see which books stood out as chart toppers. There’s a good split between adult fiction, non-fiction and children’s fiction.
Jamie Oliver was top of the pops, in the number 1 spot, while the ever popular children’s author, David Walliams had 2 titles in the top 10. When it came to adult fiction genres, crime / thrillers was the only one to feature. What ever happened to romance?

Jamie Oliver – 5 Ingredients – Quick and Easy Food
Cooking doesn't have to be complicated - that's why Jamie's book '5 Ingredients' is sure to become your new best friend in the kitchen. It's all about making the journey to good food, super-simple.

David Walliams – Bad Dad
A high-speed cops and robbers adventure. A father and son take on the villainous Mr Big - and win! This will have your kids on the edge of their seats and howling with laughter!

Dan Brown – Origin (Robert Langdon 5)
Robert Langdon arrives at the Guggenheim Museum Bilbao to attend the unveiling of a discovery that claims it will change the face of science forever. But everyone is left reeling when the evening is blown apart before the discovery can be revealed. With his life under threat, Langdon is forced into a desperate bid to escape, along with the museum's director, Ambra Vidal. Together they flee to Barcelona on a perilous quest to locate a cryptic password that will unlock the secret.

Shari Lapena – The Couple Next Door
Your neighbour told you that she didn't want your six-month-old daughter at her dinner party. Your husband said it would be fine, you only live next door. You'll have the baby monitor and take it in turns to go back every half hour. Your daughter was sleeping when you last checked on her. Now, as you race up the stairs, your worst fears are realised. She's gone!

David Walliams – The World’s Worst Children 2
If you thought you’d read about the World's Worst Children already, you're in for a rather nasty shock. The beastly boys and gruesome girls in this book are even ruder, even more disgusting and WORSE than you could ever imagine!

Guinness World Records 2018
This latest edition is packed with more incredible accomplishments, stunts, cutting-edge science and amazing sporting achievements than ever before.

Lee Child – Night School (Jack Reacher 21)
'Night School' takes Reacher back to his army days, but this time he's not in uniform. With trusted sergeant Frances Neagley at his side, he must carry the fate of the world on his shoulders. A fiendishly clever new adventure.

Yuval Noah Harari – Sapiens: A Brief History of Humankind
100,000 years ago, at least six human species inhabited the earth. Today there is just one - us. How did our species succeed in the battle for dominance? Why did our foraging ancestors come together to create cities and kingdoms? How did we come to believe in gods, nations and human rights; to trust money, books and laws; to be enslaved by bureaucracy, timetables and consumerism? What will our world be like in the millennia to come?

Jeff Kinney – The Getaway (Diary of a Wimpy Kid 12)
Life was better in the old days. Or was it? That's the question Greg Heffley is asking as his town voluntarily unplugs and goes electronics-free. Greg isn't cut out for an old-fashioned world. With tension building inside and outside the Heffley home, will Greg find a way to survive? Or is going 'old school' just too hard for a kid like Greg?

Philip Pullman – La Belle Sauvage: The Book of Dust Volume 1
Philip Pullman returns to the world of 'His Dark Materials' with this novel, set ten years before 'Northern Lights'. Two children, with everything at stake, find themselves pursued by a terrifying evil. In their care is a tiny child, and in that child lies the fate of the future.
Winner of the Waterstones Book of the Year 2017.







10 Llyfr Mwyaf Poblogaidd 2017


Mae’n bryd edrych yn ôl ar 2017 i weld pa lyfrau ddaeth i’r brig.  Maen nhw’n rhannu'n dda rhwng ffuglen oedolion, llyfrau ffeithiol a ffuglen i blant.
Jamie Oliver oedd ar y brig, yn safle rhif 1, tra bod yr awdur i blant, David Walliams â 2 lyfr yn y 10 uchaf.  O ran ffuglen i oedolion, trosedd / cyffro oedd yr unig genre a ymddangosodd. Beth ddigwyddodd i ramant?

Jamie Oliver – 5 Ingredients – Quick and Easy Food
Does dim rhaid i goginio fod yn gymhleth – dyma pam fod llyfr Jamie, '5 Ingredients' yn siŵr o fod yn gyfaill gorau i chi yn y gegin. Mae’n ymwneud â’r daith at fwyd da, yn syml iawn.

David Walliams – Bad Dad
Antur plismyn a lladron.  Mae tad a mab yn mynd i’r afael â’r Mr Big drwg- ac yn ennill! Bydd eich plant ar flaenau’u seddi ac yn chwerthin yn uchel!

Dan Brown – Origin (Robert Langdon 5)
Mae Robert Langdon yn cyrraedd Amgueddfa Guggenheim Bilbao ar gyfer datgelu darganfyddiad a fydd yn newid wyneb gwyddoniaeth am byth. Ond caiff pawb eu siglo pan fo’r noson yn cael ei difetha cyn datgelu’r darganfyddiad. Gyda’i fywyd dan fygythiad, mae Langdon yn cael ei orfodi i ddianc, gyda chyfarwyddwr yr Amgueddfa, Ambra Vidal. Gyda’i gilydd maen nhw’n dianc i Barcelona ar drywydd cyfrinair a fydd yn datgloi’r gyfrinach.

Shari Lapena – The Couple Next Door

Dywedodd eich cymydog nad oedd hi am gael eich merch chwe mis oed yn ei pharti. Dywedodd eich gŵr y byddai pob dim yn iawn, dim ond drws nesaf yr ydych yn byw.  Bydd gyda chi’r synhwyrydd baban a gallwch fynd yn ôl ac ymlaen bob hanner awr. Roedd eich merch yn cysgu y tro diwethaf i chi edrych i mewn arni.  Nawr, wrth i chi redeg i fyny’r grisiau, mae eich ofnau wedi dod yn wir.  Mae hi wedi mynd!

David Walliams – The World’s Worst Children 2
Os oeddech chi’n meddwl eich bod chi wedi darllen am blant gwaetha’r byd eisoes, mae sioc yn eich disgwyl. Mae’r bechgyn a’r merched yn y llyfr yma hyd yn oed yn fwy anwar, yn fwy ffiaidd ac yn WAETH nag y gallech ddychmygu!

Guinness World Records 2018
Mae’r argraffiad diweddaraf yma’n llawn mwy o orchestion, styntiau, gwyddoniaeth arloesol a champau’r byd chwaraeon nag erioed o’r blaen.

Lee Child – Night School (Jack Reacher 21)
Mae 'Night School' yn mynd â Reacher yn ôl i’w amser yn y fyddin, ond y tro hwn dyw e ddim mewn lifrau. Gyda’r Sarjant Frances Neagley wrth ei ochr, rhaid iddo ddwyn pwysau’r byd ar ei ysgwyddau.  Antur newydd cythreulig o glyfar.

Yuval Noah Harari – Sapiens: A Brief History of Humankind

100,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd o leiaf chwech o rywogaethau dynol yn byw ar y ddaear.  Nawr, dim ond un sydd - ni.  Sut lwyddodd ein rhywogaeth ni yn y frwydr am oruchafiaeth?  Pam ddaeth ein cyndeidiau a oedd yn porthi at ei gilydd i greu dinasoedd a theyrnasoedd? Sut ddaethom ni i gredu mewn duwiau, cenhedloedd a hawliau dynol; i ymddiried mewn arian, llyfrau a chyfreithiau; i gael ein caethiwo gan fiwrocratiaeth, amserlenni a phrynwriaeth?  Sut fydd ein byd yn y milenia a ddaw?

Jeff Kinney – The Getaway (Diary of a Wimpy Kid 12)
Roedd bywyd yn well ers talwm, on’d oedd? Dyna’r cwestiwn mae Greg Heffley’n gofyn wrth i’w dref ddatgysylltu’r plygiau a mynd yn ddi-electroneg.  Dyw Greg ddim yn siwtio’r byd hen ffasiwn.  Gyda thensiwn yn codi y tu fewn a’r tu allan i gartref yr Heffley, a fydd Greg yn cael hyd i ffordd i barhau? Neu a yw troi at ‘yr hen ffordd o fyw’ yn rhy anodd i blentyn fel Greg?

Philip Pullman – La Belle Sauvage: The Book of Dust Volume 1

Mae Philip Pullman yn dychwelyd i fyd 'His Dark Materials' gyda’r nofel hon, a leolir deng mlynedd cyn 'Northern Lights'.  Mae dau o blant, gyda phob dim yn y fantol, yn cael eu hunain yn cael eu herlid gan ddrygioni ofnadwy. Yn eu gofal mae plentyn bach, ac mae eu ffawd ynghlwm wrth y plentyn hwnnw.

Enillydd Llyfr y Flwyddyn Waterstones ar gyfer 2017.

No comments:

Post a Comment

We would love to hear from you.
Please leave comments below.