Friday, 2 February 2018

National Storytelling Week 2018


Jan 27th - 3rd Feb 2018
What stories will you hear?

Over the past 24 years The Society For Storytelling has achieved much in its mission for the promotion of the oral tradition of storytelling, the very first way of communicating life experiences and the creative imagination.
2018 marks the 18th year of its Annual National Storytelling Week, celebrated by all ages enjoying tales from a variety of cultures and times. 
Storytelling allows us to understand and connect with the world around us and helps us feel like we are a part of something.  Reading stories to children can show them far-flung places, extraordinary people and eye-opening situations to expand and enrich their world.
There is no shortage of fantastic books at the library to share with your little ones, here are just a few suggestions for you to practice your storytelling skills! Once upon a time...

Zog and the Flying Doctors (Julia Donaldson and Axel Scheffler) - Meet the Flying Doctors: Princess Pearl, Sir Gadabout and, of course, their trusty 'air ambulance', Zog the dragon. There's much to do, as they fly around tending a sunburnt mermaid, a distressed unicorn and a sneezy lion. But should princesses really be doctors?
Pearl's uncle, the King, doesn't think so - until he himself falls ill, and only Pearl knows how to cure him. 

There is No Dragon in this Story (Lou Carter and Deborah Allwright) - Poor old dragon. Nobody wants him in their story. Not Goldilocks, not Hansel and Gretel - no one. But Dragon will not give up! He shall continue on his course of finding someone who wants him in their story. ANYONE. His boundless enthusiasm surely won't get him into any trouble. Surely ... A glorious story about dragons, heroes and one very big sneeze.


Neon Leon (Jane Clarke and Britta Teckentrup) - Everyone knows that chameleons are the best at fitting in. But not Leon. Leon is neon!
In fact, he's SO bright that he keeps all the other chameleons awake at night. But poor Leon is lonely, so he goes off in search of somewhere he can blend in.

In this delightful interactive book, children can help Leon on his journey by counting his steps, sending him to sleep and giving him lots of reassurance when he's feeling down. But will he ever find a place he can fit in...?



Pa storïau fyddwch chi’n clywed?

Dros y 24 mlynedd ddiwethaf mae’r Gymdeithas Adrodd Storïau wedi cyflawni llawer yn ei chenhadaeth i hybu’r traddodiad o ddweud stori ar lafar, y dull cyntaf erioed o drosglwyddo profiadau bywyd a’r dychymyg creadigol.
2018 yw 18fed blwyddyn Wythnos Genedlaethol Adrodd Storïau sy’n cael ei dathlu gan bobl o bob oed sy’n mwynhau storïau o amrywiaeth o ddiwylliannau a chyfnodau. 
Mae dweud stori yn caniatáu i ni ddeall a chysylltu â’r byd o’n cwmpas ac yn ein helpu i deimlo ein bod ni’n rhan o rywbeth.  Mae darllen storïau i blant yn gallu dangos gorwelion pell iddyn nhw, ynghyd â phobl anhygoel a sefyllfaoedd cyffrous i ehangu a chyfoethogi eu byd.
Does dim prinder o lyfrau gwych yn y llyfrgell i rannu gyda’r rhai bach, dyma ambell awgrym i chi i gael ymarfer eich sgiliau wrth ddweud stori! Un tro, amser maith yn ôl...

Zog and the Flying Doctors (Julia Donaldson ac Axel Scheffler)
Dewch i gwrdd â Meddygon yr Awyr: Y Dywysoges Pearl, Sir Gadabout ac, wrth gwrs,  yr ‘ambiwlans awyr', Zog y ddraig. Mae yna gymaint i wneud wrth iddyn nhw hedfan o gwmpas yn tendio môr-forwyn â llosg haul, ungorn gofidus a llew yn tisian. Ond a ddylai tywysogesau fod yn feddygon mewn gwirionedd?
Dyw ewythr Pearl, y Brenin, ddim yn credu hynny – tan iddo fod yn sâl, a dim ond Pearl sy’n gwybod sut i’w wella. 

There is No Dragon in this Story (Lou Carter a Deborah Allwright)
Druan o’r ddraig. Does neb ei eisiau yn eu stori. Ddim Elen Benfelen, ddim Hansel a Gretel - neb. Ond dyw’r Ddraig ddim yn mynd i roi’r gorau i bethau! Mae e am barhau i geisio cael hyd i rywun sydd eisiau ei gael e yn eu stori. UNRHYW UN.  Dyw ei frwdfrydedd heintus ddim am ei gael i mewn i drwbl, does bosib.  Yn siŵr... stori ogoneddus am ddreigiau, arwyr ac un tisiad anferth.


Neon Leon (Jane Clarke a Britta Teckentrup)
Mae pawb yn gwybod mai cameleonod yw’r gorau wrth ffitio i mewn.  Ond, nid Leon.  Mae Leon yn neon!
A dweud y gwir mae e MOR llachar, mae e’n cadw’r cameleonod eraill ar ddi-hun trwy’r nos. Ond mae Leon druan mor unig, felly mae’n mynd i ffwrdd i chwilio am rywle y gall ymdoddi iddo.
Yn y llyfr rhyngweithiol hyfryd yma, gall blant helpu Leon ar ei daith trwy gyfrif ei gamau, ei roi i gysgu a thrwy roi digon o gysur iddo pan fydd yn teimlo’n isel. Ond a fydd e byth yn cael hyd i le y bydd yn gallu ffitio i mewn iddo...?

No comments:

Post a Comment

We would love to hear from you.
Please leave comments below.