Friday 9 February 2018

Fall in love with reading again this Valentine’s Day


If you are a regular visitor to our blog then it’s a very good chance that you, like us, love reading!  We always have plenty of new books available at Torfaen Libraries for you to try so, as Valentine’s Day approaches, find below a pick of new fiction titles to fall in love with this year.

Still Me – JoJo Moyes
Lou Clark knows too many things.  She knows how many miles lie between her new home in New York and her new boyfriend Sam in London. She knows her employer is a good man and she knows his wife is keeping a secret from him. What Lou doesn't know is she's about to meet someone who's going to turn her whole life upside down.
Because Josh will remind her so much of a man she used to know that it'll hurt. Lou won't know what to do next, but she knows that whatever she chooses is going to change everything.

Happiness for Humans - P.Z. Reizin
Jen is sad. Aiden wants her to be happy. Simple? Except that Jen is a thirty-something woman whose boyfriend has just left her and Aiden is a very complicated, very expensive piece of software.
Can a very artificially intelligent machine discover emotional intelligence in time to fix Jen's life? And find out what exactly does make human beings happy?

This Could Change Everything - Jill Mansell
If only Essie hadn't written that letter - the one that went viral...
On the one hand, if Essie hadn't written that letter - the one that only her best friend was meant to see - then she'd still be living like an actual proper grown-up, tucked up with Paul in his picture-perfect cottage, maybe even planning their wedding.  On the other hand she wouldn't have moved into the attic flat on the square. She would never have met Conor. Or got to know Lucas.  And she wouldn't have found herself falling in love with someone she really, really shouldn't fall in love with...

How to Stop time – Matt Haig
"The first rule is that you don't fall in love, ' he said.   'There are other rules too, but that is the main one. No falling in love. No staying in love. No daydreaming of love. If you stick to this you will just about be okay.'"

A love story across the ages - and for the ages - about a man lost in time, the woman who could save him, and the lifetimes it can take to learn how to live.





Syrthiwch mewn cariad â darllen eto ar ddydd Sain Folant eleni!

Os ydych chi'n ymweld â'n blog yn rheolaidd yna mae'n siŵr eich bod chithau, fel ni, yn mwynhau darllen! Mae gennym bob amser ddigon o lyfrau newydd ar gael yn Llyfrgelloedd Torfaen er mwyn i chi roi cynnig arni, felly wrth i Ddiwrnod Sain Folant agosáu, fe welwch isod ddewis o deitlau ffuglen newydd i ddisgyn mewn cariad â hwy eleni.

Still Me – JoJo Moyes
Mae Lou Clark yn gwybod gormod o bethau.  Mae’n gwybod faint o filltiroedd sydd rhwng ei chartref newydd yn Efrog Newydd a Sam, ei chariad newydd yn Llundain. Mae hi'n gwybod bod ei chyflogwr yn ddyn da ac mae hi'n gwybod bod ei wraig yn cadw cyfrinach oddi wrtho. Yr hyn nad yw Lou yn ei wybod yw ei bod ar fin cyfarfod â rhywun sy'n mynd i droi ei bywyd cyfan wyneb i waered.
Oherwydd y bydd Josh yn ei hatgoffa cymaint o ddyn roedd hi'n arfer ei adnabod, bydd yn brifo. Ni fydd Lou yn gwybod beth i'w wneud nesaf, ond gwn y bydd beth bynnag y bydd hi'n ei ddewis, yn newid popeth.

Happiness for Humans - P.Z. Reizin
Mae Jen yn drist. Mae Aiden am iddi fod yn hapus. Syml? Ond mae Jen yn ferch dros deg ar hugain oed y mae ei chariad newydd ei gadael ac mae Aiden yn ddarn o feddalwedd gymhleth, ddrud iawn.
A all peiriant deallusrwydd artiffisial hynod iawn ddarganfod deallusrwydd emosiynol mewn pryd i drwsio bywyd Jen? A darganfyddwch beth yn union sy'n gwneud bodau dynol yn hapus


This Could Change Everything - Jill Mansell
O pe na fyddai Essie wedi ysgrifennu'r llythyr hwnnw - yr un a aeth yn fyd-eang...
Ar y naill law, pe na bai Essie wedi ysgrifennu'r llythyr hwnnw - yr un oedd wedi ei fwriadu i lygaid ei chyfaill gorau yn unig - yna byddai hi dal i fod yn byw fel oedolyn go iawn, gyda Paul yn ei fwthyn perffaith, efallai hyd yn oed yn cynllunio eu priodas. Ar y llaw arall, ni fyddai hi wedi symud i mewn i'r fflat atig ar y sgwâr. Ni fyddai hi byth wedi cwrdd â Conor, na dod i adnabod Lucas. Ac ni fyddai wedi ffeindio'i hun yn syrthio mewn cariad â rhywun na ddylai fyth, byth fod wedi syrthio mewn cariad ag ef...

How to Stop time – Matt Haig

"Y rheol gyntaf yw nad wyt yn syrthio mewn cariad, ' dywedodd ef.   'Mae yna reolau eraill hefyd, ond dyna’r un pennaf. Dim syrthio mewn cariad. Dim aros mewn cariad. Dim breuddwydio am gariad. Os nei di gadw at hyn byddi di’n weddol oce.'"

Stori serch ar draws yr oesoedd - ac i bob oed - am ŵr a aethai i ddifancoll, y wraig a all ei achub, a’r oesoedd y gall gymryd i ddysgu sut i fyw.

No comments:

Post a Comment

We would love to hear from you.
Please leave comments below.