April’s castaway is Rosie Clare, from Cwmbran library. Here are
her 6 essential reads.
This is an all-time favourite of
mine. Written in diary form in the first person we are taken on a journey
starting with Jane’s childhood to a day in her future when she is happy and in
love. I particularly enjoy witnessing Jane’s development from a neglected and
put-upon child to a strong woman who knows what she wants. She falls in
love with Mr Rochester early in her adulthood but will not be with him unless
it is on her own terms. ‘Reader, I married him.’
This is a book that I have started to read a
couple of times but not got very far. I think it would be a great opportunity
to finally read this on my desert island. It is one of the longest pieces of
fiction originally written in English and is a fascinating insight into the
lives of four fictional families living in 1950s India. Attempts by Lata’s
mother to find her a husband are causing a family feud as Lata insists on
choosing her own match.
Another favourite book that I would like time
to re-read. It is a dark book set in a dark place but written with surprisingly
beautiful language and wonderful descriptions. Mr Verloc is not a pleasant
character and his quiet unassuming wife, Winnie shows us why you should never
underestimate the protective instincts of a woman.
I have chosen this book out of pure
nostalgia. Having this read to me as a child helped forge my love of books. The
wonderful adventures of Ratty, Mole and Mr Toad simply whisk me away to a
world of sunshine, water and picnics – wherever I happen to be when I’m reading
it.
This might be a cheat choosing
a trilogy, but they can’t really be read on their own. The story
continues to build in excitement and becomes darker and more menacing in each
book. Exciting events, wonderful descriptions and incredible characters keep
the reader hooked throughout the epic journey of a hobbit, a few dwarves and a
wizard as they attempt to overthrow the evil entity, Sauron and destroy the
‘one ring’.
I haven’t read this book, but I have a feeling
it will be very useful on the island. Ever the practical person, I would like
to think that I would be able to make a shelter, build a fire, find food and
water then read all my books! Canterbury is an expert survivalist and bases his
success on the 5 Cs : cutting tools, covering, combustion devices,
containers, and cordage.
Llyfrau Ynys Bellennig 5
Ein llongddrylliedig ym
mis Ebrill yw Rosie Clare, o lyfrgell Cwmbrân. Dyma 6 o’i hanfodion darllen hi.
Mae hwn yn ffefryn go iawn i mi. Ysgrifennwyd y llyfr ar ffurf dyddiadur
yn y person cyntaf. Cawn ein tywys ar daith sy'n cychwyn gyda phlentyndod Jane
a hynny tan ddiwrnod yn ei dyfodol pan mae hi'n hapus ac mewn cariad. Rwyf yn
mwynhau gweld datblygiad Jane o blentyn a gafodd ei esgeuluso, i fenyw gref
sy'n gwybod beth mae hi eisiau. Mae hi'n syrthio mewn cariad â Mr Rochester ar
ddechrau ei bywyd fel oedolyn, ond ni fydd hi gydag ef oni bai ei fod ar ei
thelerau hi. 'Ddarllenydd, fe briodais ef.'
A
Suitable Boy –Vikram Seth
Mae hwn yn llyfr yr wyf
wedi dechrau ei ddarllen fwy nag unwaith, ond heb gyrraedd yn bell iawn. Rwy'n
credu y byddai'n gyfle gwych i ddarllen hwn o'r diwedd ar fy ynys bellennig.
Mae'n un o'r darnau hiraf o ffuglen a ysgrifennwyd yn wreiddiol yn Saesneg ac
mae'n gipolwg diddorol i mewn i fywydau pedwar teulu dychmygol sy'n byw yn
India yn y 1950au. Mae ymdrechion mam Lata i ddod o hyd i ŵr iddi yn achosi
ymrafael ymysg y teulu wrth i Lata fynnu mynd ati i ddewis rhywun ei hun.
Hoff lyfr arall yr hoffwn
gael amser i'w ail-ddarllen. Mae'n llyfr tywyll sy'n adrodd hanes o le tywyll,
ond un sydd wedi'i ysgrifennu ag iaith ryfeddol o hardd, a disgrifiadau gwych.
Nid yw Mr Verloc yn gymeriad dymunol ac mae Winnie, ei wraig ddiymhongar a
thawel, yn dangos i ni pam na ddylech chi fyth bychanu greddfau amddiffynnol
menyw.
The
Wind in the Willows – Kenneth Grahame
Yr wyf wedi dewis y
llyfr hwn ar sail atgofion pur. Darllen hwn i mi yn blentyn a helpodd i
feithrin fy hoffter o lyfrau. Mae anturiaethau gwych Ratty, Mole a Mr Toad yn
fy ysgubo i ffwrdd i fyd o heulwen, dŵr a phicnic - lle bynnag yr wyf yn
digwydd bod pan dwi'n ei ddarllen.
The
Lord of the Rings -Triloleg – JRR Tolkien
Efallai bod dewis trioleg
braidd yn eofn, ond ni allwch eu darllen ar eu pennau eu hunain. Mae'r stori yn
parhau i adeiladu mewn cyffro ac yn dod yn dywyllach ac yn fwy bygythiol ym
mhob llyfr. Mae digwyddiadau cyffrous, disgrifiadau gwych a chymeriadau
anhygoel yn cadw'r darllenydd yn gaeth trwy gydol y daith epig Hobbit, ychydig
o gorachod a dewin wrth iddynt geisio dymchwel yr endid drwg, Sauron a
dinistrio'r 'un fodrwy'.
Bushcraft
101 – Dave Canterbury
Nid wyf wedi darllen y llyfr hwn, ond mae
gen i deimlad y bydd yn ddefnyddiol iawn ar yr ynys. Yn berson ymarferol,
byddwn yn hoffi meddwl y byddwn yn gallu gwneud lloches, cynnau tân, dod o hyd
i fwyd a dŵr yna darllen fy holl lyfrau! Mae Canterbury yn oroeswr arbenigol ac
yn seilio ei lwyddiant ar 5 peth: offer torri, gorchudd, dyfeisiau hylosgi,
cynwysyddion, a rhaffau.