Friday 11 May 2018

British Book Awards - Debut Book of the Year




The British Book Awards (or Nibbies) honours and celebrates the commercial successes of publishers, authors and bookshops. Organised by The Bookseller, the event announces seven individual books of the year on 14 May: Children’s; Debut fiction; Fiction; Crime & Thriller; Non-fiction: Lifestyle; Non-fiction: Narrative and (new for 2018) AudioBook. An overall ‘Book of the Year’ is then chosen from the individual winners.

This week, we’ll cast our eye over some of the contenders for Debut Book of the Year.  Will one of these become your new, favourite author?

Homegoing by Yaa Gyasi - Effia and Esi: two sisters with two very different destinies. One sold into slavery; one a slave trader's wife.  The consequences of their fate reverberate through the generations that follow. As each chapter offers up a new descendant, alternating between Effia’s and Esi’s bloodline right up to the present day, a chasm of experience and the differing legacies of chance are brought starkly to light.



Eleanor Oliphant is Completely Fine by Gail Honeyman - Eleanor has learned how to survive - but not how to live.  One simple act of kindness is about to shatter the walls Eleanor has built around herself. Now she must learn how to navigate the world that everyone else seems to take for granted - whilst searching for the courage to face the dark corners she's avoided all her life.
Change can be good. Change can be bad. But surely any change is better than... fine?

Sirens by Joseph Knox - Detective Aidan Waits is in trouble.  After a career-ending mistake, he’s forced into a nightmare undercover operation that his superiors don’t expect him to survive.
When the teenage daughter of a prominent MP joins Zain Carver, the enigmatic criminal who Waits is investigating, everything changes. Soon Waits is cut loose by the police, stalked by an unseen killer and dangerously attracted to the wrong woman.


Why Mummy Drinks by Gill Sims - It is Mummy's 39th birthday. She is staring down the barrel of a future of people asking if she wants to come to their advanced yoga classes and polite book clubs. But Mummy does not want to go quietly into that good night of women with sensible haircuts who `live for their children' and stand in the playground trying to trump each other with their offspring's extracurricular activities and achievements, and boasting about their latest holidays.
Instead, she remembers the gem of an idea she's had…





Mae Gwobrau Llyfrau Prydain yn anrhydeddu ac yn dathlu llwyddiannau masnachol cyhoeddwyr, awduron a siopau llyfrau. Wedi ei drefnu gan The Bookseller, mae’r digwyddiad yn cyflwyno saith llyfr unigol y flwyddyn ar 14 Mai: Plant; Ffuglen Cynnig Cyntaf; Ffuglen; Trosedd a Chyffro; Ffeithiol: Ffordd o Fyw; Ffeithiol: Traethiadol a (yn newydd ar gyfer 2018) Llyfr Llafar. Mae un ‘Llyfr y Flwyddyn’ wedyn yn cael ei ddewis o’r enillwyr unigol.

Yr wythnos yma, cawn edrych ar rhai o’r llyfrau sydd yn y gystadleuaeth ar gyfer Llyfr Cynnig Cyntaf y Flwyddyn.  A fydd un o’r rhain yn dod yn awdur newydd hoff gennych chi?

Homegoing gan Yaa Gyasi - Effia ac Esi: dwy chwaer gyda thynghedau gwahanol iawn i’w gilydd.  Un yn cael ei gwerthu’n gaethferch, un yn wraig i werthwr caethweision.  Mae canlyniadau eu ffawd yn atsain trwy’r cenedlaethau sy’n dilyn. Wrth i bob pennod yn ei thro gyflwyno disgynnydd newydd, trwy linell gwaed Effia ac Esi bob yn ail hyd at y presennol, mae’r agendor mewn profiad ac etifeddiaeth gwahanol ffawd yn dod i’r amlwg.



Eleanor Oliphant is Completely Fine gan Gail Honeyman - Mae Eleanor wedi dysgu sut mae goroesi - ond nid sut i fyw.  Mae un weithred garedig yn mynd i ddymchwel y waliau y mae Eleanor wedi adeiladu o’i chwmpas.  Nawr mae’n rhaid iddi ddysgu i lywio’i ffordd trwy’r byd y mae pawb arall i weld yn ei gymryd yn ganiataol - tra’n chwilio ar yr un pryd am y dewrder i wynebu’r corneli tywyll y mae hi wedi osgoi trwy ei holl fywyd.
Gall newid fod yn dda. Gall newid fod yn ddrwg.  Ond mae’n siŵr bod unrhyw newid yn well na.... iawn?

Sirens gan Joseph Knox – Mae’r Ditectif Aidan Waits mewn trwbl.  Ar ôl camgymeriad sy’n dod â’i yrfa i ben mae’n cael ei orfodi i mewn i gyrch cudd hunllefus nad yw ei reolwyr yn disgwyl iddo ddod trwyddo.
Pan fo merch AS blaenllaw yn ymuno â Zain Carver, y troseddwr mae Waits yn ymchwilio iddo, mae pob dim yn newid. Cyn bo hir mae Waits yn cael ei ollwng yn rhydd gan yr heddlu, ac y cael ei ddilyn gan lofrudd anweledig a’i ddenu at y fenyw anghywir.


Why Mummy Drinks gan Gill Sims – Mae’n ben-blwydd Mam yn 39. Mae’r wynebu dyfodol o bobl yn gofyn iddi ddod at eu dosbarth ioga a chlybiau llyfrau. Ond dyw Mam ddim am ddiflannu i fyd menywod â gwallt synhwyrol sy’n ‘byw am eu plant’ ac sy’n sefyll yn iard yr ysgol yn ceisio cael y gorau ar ei gilydd gyda gweithgareddau allgyrsiol a llwyddiannau eu plant, ac yn trafod ei gwyliau diweddaraf. Yn lle, mae’n cofio chwip o syniad a gafodd hi.

No comments:

Post a Comment

We would love to hear from you.
Please leave comments below.