Thursday 3 May 2018

Have you tried BorrowBox yet?



Have you heard? A bigger, better collection of eBooks and eAudiobooks is now freely available for all members of Torfaen Libraries on BorrowBox.

The BorrowBox service has a wide range of titles available for you to download onto your computer or most mobile devices to read and to listen to. There are English and Welsh language books, fiction and non-fiction, and books for adults and children – something for everyone!

If you are already a member of Torfaen Libraries, you can borrow straight away by visiting our website or downloading the app. If not, pop into your local library and join up.  It’s free and easy to do and you only need to bring along a proof of address.

The Content Experts at BorrowBox have been going through all of the best releases from April to find new titles that you should definitely add to your reading list!

King of Ashes by Raymond E. Feist –For centuries, the five greatest kingdoms of North and South Tembria have coexisted in peace.  But the balance of power is destroyed when four of the kingdoms turn on the fifth and war engulfs the kingdoms.  Years later, two orphans will discover that their fates are entwined, that the War of Betrayal never truly ended…and they must discover the secret of who truly threatens their world.



The Half Sister by Catherine Chanter - Diana left her unhappy family at the age of sixteen to make a new life.  Recently married to Edmund, there are just the two of them living at his family’s historic country home.  But when Diana learns that her mother has died she asks her estranged half-sister and her nine-year-old son to stay. The night of the funeral, the sisters argue and Diana’s life begins to crack and lies begin to surface. 



Agatha Raisin and the Witches’ Tree by M.C. Beaton - (eAudiobook) It is late at night when new vicar Rory Devere and his wife Molly are driving home from a dinner party and discover the body of elderly spinster Margaret Darby hanging from a tree on the edge of Sumpton Harcourt.  Agatha Raisin rises to the occasion, but soon realises that Sumpton Harcourt is a small and private village that poses more questions than answers…


If you need help setting up and using BorrowBox on your device why not come along to our regular I.T support sessions and we’ll get you started!




Ydych chi wedi clywed? Mae casgliad mwy a gwell o eLyfrau ac eLyfrau Sain ar gael am ddim nawr i holl aelodau Llyfrgelloedd Torfaen ar BorrowBox.


Mae gan wasanaeth BorrowBox amrywiaeth eang o deitlau ar gael i chi eu llwytho i lawr i’ch cyfrifiadur neu’r rhan fwyaf o ddyfeisiau symudol i ddarllen a gwrando arnynt. Mae llyfrau iaith Gymraeg a Saesneg, ffuglen a ffeithiol, a llyfrau i oedolion ac i blant – mae rhywbeth i bawb!

Os ydych eisoes yn aelod o Lyfrgelloedd Torfaen, medrwch fenthyg ar unwaith drwy fynd i’n gwefan neu lawrlwytho’r ap. Os nad ydych yn aelod, dewch draw i’ch llyfrgell leol ac ymuno. Mae’n hawdd ac am ddim – dim ond prawf o’ch cyfeiriad sydd ei angen arnoch.

Mae’r Arbenigwyr Cynnwys yn BorrowBox wedi bod yn mynd trwy’r teitlau newydd gorau ar gyfer mis Ebrill i weld beth ddylech ei ychwanegu i’ch rhestr ddarllen!

King of Ashes gan Raymond E. Feist – Am ganrifoedd, mae’r pum teyrnas fwyaf yng Ngogledd a De Tembria wedi cydfyw’n heddychlon. Ond caiff cydbwysedd pŵer ei ddinistrio pan fo pedair o’r pump yn ymosod ar y bumed ac mae rhyfel yn eu llyncu. Flynyddoedd yn ddiweddarach, mae dau blentyn amddifad yn darganfod fod eu ffawd wedi eu plethu â’i gilydd, ac nad yw’r Rhyfel Brad erioed wedi dod i ben ... a rhaid iddyn nhw ddarganfod cyfrinach pwy sydd yn bygwth eu byd mewn gwirionedd.


The Half Sister gan Catherine Chanter – Gadawodd Diana ei theulu anhapus yn un ar bymtheg oed i greu bywyd newydd. Wedi priodi Edmund yn ddiweddar, dim ond y ddau ohonyn nhw sy’n byw yng nghartref hanesyddol ei deulu yn y wlad. Ond pan fo Diana yn clywed bod ei mam wedi marw, mae’n gofyn i’w hanner chwarae a’i mab naw mlwydd oed ddod i aros. Noson yr angladd, mae’r chwiorydd yn ffraeo, mae bywyd Diana yn dechrau chwalu ac mae’r celwyddau’n dod i’r wyneb. 


Agatha Raisin and the Witches’ Tree gan M.C. Beaton - (eLyfr Sain) Mae’n hwyr yn y nos pan fo’r gweinidog newydd Rory Devere a’i wraig Molly yn gyrru’n ôl o barti cinio ac yn darganfod corff Margaret Darby yn crogi o goeden ar ymyl Sumpton Harcourt.  Mae Agatha Raisin yn dod i geisio datrys pethau, ond mae’n sylweddoli’n fuan bod Sumpton Harcourt yn bentref bach a phreifat sy’n gofyn mwy o gwestiynau nag y mae’n eu cynnig mewn atebion …

Os ydych angen help i osod a defnyddio BorrowBox ar eich dyfais, dewch i’n sesiynau cymorth TG rheolaidd ac fe roddwn ni chi ar ben y ffordd!






No comments:

Post a Comment

We would love to hear from you.
Please leave comments below.